Grŵp dawns Manaweg ifanc yw Skeddan Jiarg dan arweiniad Grainne Joughin. Wedi’i leoli yn Peel, mae’r dawnswyr yn amrywio o blant bach i oedolion ac maen nhw’n cwrdd brynhawn Sul yn Peel.
Yn 2017 cawsant wobr Cymdeithas Manaweg Gogledd America am ‘Gyfraniad rhagorol i ddiwylliant Manaweg gan grŵp o bobl ifanc o dan 25 oed’.
Mae’r grŵp ysbrydoledig wedi perfformio mewn amryw o ddigwyddiadau a gwyliau cymunedol: Festival Interceltique de Lorient (Llydaw), Cwlwm Celtaidd (Cymru), Lowender Peran (Cernyw), Yn Chruinnaght Celtic Gathering, Shennaghys Jiu, cynhadledd y Gyngres Geltaidd a Cyclefest (Ynys Manaw) , ac wedi syfrdanu’r gynulleidfa yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ynys Manaw 2018.