Cystadlaethau

Cystadleuaeth Corau Plant

Cystadleuaeth Cerddor Ifanc yr Ŵyl

Ar ddydd Sul, Mawrth 10fed, 2019 bydd cystadleuaeth Cerddor Ifanc yr Ŵyl yn croesawu offerynwyr ifanc, 10 i 18 oed, o’r gwledydd Celtaidd i gystadlu a pherfformio. Bydd yr ennillydd yn derbyn plat arbennig gan Grochendy Eweni.

Aneirin Jones

Aneirin Jones – Ennillydd Cystadleuaeth Cerddor Ifanc 2016
© Dave Williams

Enillydd Cerddor Ifanc yr Ŵyl yn 2016 oedd Aneirin Jones, ffidlwr 18 oed o Bontardawe. Dywed Aneirin;

“Roedd y gystadleuaeth yn brofiad hynod o wych wrth i bob beirniad roi cyngor ynglŷn a fy mherfformiad, boed yn sylwad technegol neu sut i wella fy mherfformiad ymhellach. Fu’n gyfraniad enfawr i’r ffordd rwy’n ymdrin, perfformio ac ymarfer fy repertoire.”

Gallwch lawr lwytho’r ffurflen gystadlu yma