Mae Selyf yn perfformio’n rheolaidd ar ffidil gyda Cat’s Claw a Jac Y Do bandiau ceilidh a thwmpath, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn ogystal â chyfeilio i nifer o gantorion proffesiynol o wahanol arddulliau. Ers dros ddeugain mlynedd bu’n gyfeilydd gyda nifer o gwmnïau dawnsio gwerin Cymreig.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi cael ei gyflogi gan y BBC i berfformio fel chwaraewr ffidil gwerin ar gynyrchiadau drama fel Poldark, Requiem a Dr Who a nifer o ffilmiau nodwedd. Mae wedi ymddangos a gwestai ar raglenni cyfryngau Cymraeg, Heno a Noson Lawen ac wedi cael ei gyflogi gan gwmnïau recordio a theledu fel cerddor sesiwn e.e. Adloniant ysgafn Ty Cerdd ac ITV.
Yn ystod ei yrfa helaeth fel chwaraewr ffidl/perfformiwr proffesiynol mae wedi ymddangos a chynrychioli Cymru mewn nifer o ddigwyddiadau a gwyliau yn y DU, tir mawr Ewrop, y Dwyrain Pell a De America.
Mae Selyf yn berfformiwr cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ar y prif lwyfan a hefyd yn ‘Tŷ Gwerin.