Mae Samiwel Humphreys o arfordir prydferth Gogledd Orllewin Cymru. Daw ei gefndir cerddorol yn wreiddiol yn chwarae mewn bandiau roc ac electronig mewn clybiau nos cyn iddo darganfod cymysgedd hud o arddulliau gwerin a modern yn chwarae gitâr i fandiau fel Calan, NoGood Boyo a Pendevig.
Ynghyd â bod yn gerddor, mae’n rhedeg cwmni recordiau ac mae ganddo gredydau recordio/cynhyrchu/cymysgu ar nifer eang o artistiaid ac mewn genres amrywiol fel D&B a Hip hop. Bu hefyd yn gweithio yn cyfansoddi i gwmnïau Ffilm, Teledu a dawns gan greu cerddoriaeth electro-acwstig rhyfedd a rhyfeddol.