Mae Jordan Price Williams, un o raddedigion CBCDC, wedi cerfio cilfach iddo’i hun fel un o brif ddehonglyddion cenhedlaeth newydd o soddgrythwyr traddodiadol Cymreig. Fel aelod o VRï, Pendevig, Elfen a cyn-aelod o NoGood Boyo, mae Jordan wedi perfformio ar draws y byd ac wedi derbyn gwobrau ac enwebiadau lluosog. Mae Jordan yn wir aml-offerynnwyr; Gyda’r soddgrwth, bas dwbl, chwiban, harmoniwm, piano, a weithiau bach o sachbib i gyd yn chwarae rhan hanfodol yn ei yrfa. Mae hefyd yn ganwr, yn perfformio bron yn gyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg.
Llun – @JennieCaldwell26