Offerynwr taro o Fro Morgannwg yw iolo, fu’n perfformio a dysgu yn broffesiynol ers ugain mlynedd bellach.  Bu wastad ganddo ddiddordeb mawr mewn chwarae cerddoriaeth wreiddiol, ac mae’n ymhyfrydu mewn cyfeilio artistiaid sy’n creu eu celfyddyd eu hunain.

Drwy feysydd gwerin, Celtaidd, pop, rock a jazz, fe recordiodd bellach ddwseni o albyms a chwarae dros fil o gyngherddau yng Nghymru, dros y ffin a thros y don.

Bellach mae’n ymddiddori’n fawr mewn canu hefyd, ac mae ei waith cyfredol yn y Nancy Ackroyd Band a chyda’i grwp ei hun Tiger Town Swing yn caniatáu iddo ddatblygu hynny’n fwy.

Mae’n bleser mawr ganddo ymuno â Sgêr yng ngwyl Cwlwm Celtaidd eleni, a chael cyfle i greu sain newydd yng nghwmni hen gyfeillion.