Triawd gwerin acapella yw Sorela sy’n cynnwys tair chwaer o Aberystwyth, Lisa, Gwenno a Mari. Maent yn canu cymysgedd dwyieithog, eclectig o alawon gwerin Cymraeg traddodiadol, hits pop y 90au, clasuron y 50au a gweithiau gwreiddiol i gyd mewn acapella. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, ‘Sorela’, ar Sain Records yn 2016. Cân am Aberystwyth, ar arfordir gorllewinol Cymru yw Heli, gan dynnu sylw at yr hyn sy’n gwneud y dref unigryw hon yn lle arbennig iawn i fyw ynddo. Mae hefyd yn pendroni ar bwysigrwydd gwreiddiau a sut y bydd ein gwreiddiau gyda ni bob amser, ble bynnag y byddwn.