Cyfle prin i weld perfformiad sy’n dod â rhai o gerddorion gorau Cymru at ei gilydd.

Mae SGÊR yn fand o ffidlwyr, drymiau, gitâr, acordion, dwbl bâs a chwibanwyr sy wedi dod at ei gilydd i’ch tywys ar daith trwy fyd cerddoriaeth Geltaidd.

Pwy yw’r cerddorion hyn?

Gallwch ddyfalu, neu aros am ychydig i’r cwbl amlygu ei hun.

Os ydych chi’n mwynhau jigiau, rîliau a polkas fe gewch chi amser i’w gofio. Tynnwch eich sgidie a dawnsiwch fel na ddawnsioch chi erioed o’r blaen.