Gwariodd Keri sawl blwyddyn ar lwyfan gyda Chymdeithas Ddrama Gymraeg Abertawe, mae’n gyn aelod o Gôr Meibion Mynydd Mawr a chôr Cantorion y Rhyd ac wedi cystadlu fel unawdydd mewn eisteddfodau lleol. Ond efallai bydd rhai yn ei adnabod fel canwr a chyd sefydlydd y band twmpath gwerin, Jac y Do.

Mae wedi ysgrifennu nifer o donau a chaneuon i’r band hwnnw ac eraill ond mae e’ hefyd yn hoff o wario oriau hamdden yn naddu ffyn, barddoni a chanu’r gitâr. Ysgrifenodd Keri ei benillion cyntaf yn grwt 8 mlwydd oed ac erbyn hyn, mae’n aelod o ddosbarth cynghaneddu’r Prifardd Robat Powell a’n aelod brwd o dîm talwrn Tanau Tawe. Mae’n hollol gartrefol ac wrth ei fodd pan ar lwyfan yn canu caneuon gwerin traddodiaol a thraddodiadol modern neu’n gyda ffrindiau Jac y Do yn twmpatha. Mae’n fab ei filltir sgwâr, wedi ei naddu o draddodiad gwerin ei febyd a’n falch o’i dreftadaeth a’r “pethe.”