Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Dawnswyr Talog ym mis Medi 1979 ac mae’r diolch am hynny i dri pherson sef Eirlys a Mansel Phillips ac Eirwen Davies.

I ddechrau, twmpathau lleol ac ambell i arddangosfa oedd prif ddyddiadau’r calendr ond, gydag amser, tyfodd llwyddiant ac enw’r tîm. Erbyn heddiw, mae’n deg dweud mai Dawnswyr Talog yw un
o grwpiau dawns traddodiadol amlycaf Cymru, ac ers 1979 maent yn sicr wedi rhoi pentref bychan Talog, sydd nepell o Gaerfyrddin, ar y map!

Mae’r dawnswyr a’r cerddorion yn cyfarfod yn Neuadd Talog ond mae dylanwad Dawnswyr Talog yn ymestyn dipyn pellach na hyn. Mae cyfeillgarwch gyda thimau dawns led-led Ewrop, ac ymweliadau â gwyliau gwerinol amrywiol wedi rhoi llwyfan rhyngwladol i Dawnswyr Talog.

Yn nes at adref, mae nifer o aelodau’r tîm yn hyfforddi dawnsio a chlocsio mewn ysgolion a chlybiau ac mae rhai cyn-aelodau wedi mynd ati i sefydlu timoedd newydd sbon. Y fesen yn dderwen a  ddaw, medd yr hen ddihareb!

Yn ogystal â hybu dawnsio gwerin Cymreig, prif amcan Dawnswyr Talog yw diddanu a chael hwyl, oherwydd dyma sy’n mynd i sicrhau bod cyfoeth ein traddodiad dawns yn parhau. Mae’r grŵp yn cynnig rhaglen amrywiol sy’n cynnwys dawnsiau gwerin o bob cwr o Gymru; dawnsiau clocsio; dawnsiau traddodiadol ac ambell ddawns wreiddiol – rhywbeth at ddant pawb!