Wedi’i ffurfio ym 1982, mae Perree Bane yn grŵp dawns, cerddoriaeth a chân draddodiadol Manaweg wedi’i leoli yn Castletown, yn Ne Ynys Manaw. Mae gan y grŵp oddeutu hanner cant o aelodau o bob oed gydag adran blant gref sydd hefyd yn perfformio fel grŵp yn eu rhinwedd eu hunain. Yr enw ‘Perree Bane’ yw Gaeleg Manaweg ar gyfer ‘White Jacket’, y mae’r dynion yn ei wisgo ynghyd â’u trowsus gwlân Loghtan. Nod y grŵp yw cadw’n fyw ac i raddau ehangu repertoire dawnsfeydd Manaweg traddodiadol. Mae Perree Bane yn perfformio’n rheolaidd mewn digwyddiadau o amgylch Ynys Manaw a hefyd mewn gwyliau a chystadlaethau ymhellach i ffwrdd, megis Cymru, Llydaw a Cernyw.