Daniel Calan Jones

Mae Daniel Calan Jones yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Birmingham ac yn dilyn cwrs BSc Physiotherapy.

Mae yn gyn prif fachgen yn Ysgol Plasmawr, Caerdydd, yn aelod o Adran Bro Taf, yn chwarae’r drymiau i’r band ‘Wigwam’ ac yn chwaraewr rygbi brwd. Dros y blynyddoedd mae ef wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau stepio unigol, deuawd a grwp yn Eisteddfod yr Urdd a’r Genedlaethol gan gynnwys cipio’r wobr gyntaf 8 gwaith yn olynnol yng nghystadleuaeth clocsio unigol Eisteddfod yr Urdd. Cafodd ei enwebu ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel dwy waith (2017 a 2019).