Ffurfiwyd Dawnswyr Gwerin Pen-y-Fai yn 1971, ac yn ddiweddar bu’r tîm yn dathlu 51 mlynedd o fodolaeth. Mae Mel Evans, un o’r arloeswyr, yn dal yn arweinydd y tîm, ac heb golli dim o’i ynni na’i fwrdfrydedd tuag at ddawnsio gwer in Cymru. Mae’r dawnswyr wedi teithio yn eang yn y DU ac Ewrop, a mis Awst eleni roedden nhw’n perfformio yng ngwyl Yn Chruinnaght ar Ynys Manaw.